Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
28/7/1990 | |||||||||||||||||
Talsarnau, Merionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Joan Addyman [June 1989 - August 1990] | |||||||||||||||||
Rain in night. Sunny. Mod SE wind. Young cuckoo found dead - head caught in cage. Inputted by CS
|
25/4/1993 | |||||||||||||||||
Gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
cog cynta i mi o gwelfor, yn y glaw waunfawr
|
30/10/1994 | |||||||||||||||||
Porthclais, Penfro | |||||||||||||||||
Saunders D (2014) yn Natur Cymru (Fifty Years ago) | |||||||||||||||||
Since 1832 the yellow-billed cuckoo has occurred in Wales on 3 occasions, being found dead in 1870 near Aberystwyth, and in 1899 at Craig y Don, Anglesey. The third was seen briefly at Porthclais Clais, Pembrokeshire on 30th October 1994, an occurrence graphically described by Devonald and Price 1994, the two fortunate observers. Bird watchers who had gathered to search for a yellow browed warbler reported nearby sadly missed out.
|
9/5/1995 | |||||||||||||||||
Esgairdawe | |||||||||||||||||
Dyddiadur David Lewis Jones (Defi Lango...Perlau'r Pridd) | |||||||||||||||||
Heddiw y clywais i y gwcw y tro cyntaf eleni - ac fe ganai, ac fe ganai!!
"O cuckoo shall I call thee bird
Or but a wandering voice"
|
30/4/1998 | |||||||||||||||||
Gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
ebrill gwlypaf y ganrif. gwlypach hyd yn oed na Ebr 1940, newyddion BBC, ond 94 a 93 yn ddigon agpos o be wela'i. Cog cynta Gwelfor db
|
31/5/2001 | |||||||||||||||||
Gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
cog cynta gwelfor ben bore
|
27/4/2002 | |||||||||||||||||
Gwelfor, waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd | |||||||||||||||||
cog gyntaf Groeslon ucha ddoe, P y Defaid fel arfer, er i bobl son am ei chlywed ers wythnos (a mwy, yn ol yr arfer!!). ANGLADD WIL HEDDIW, CYFAILL BORE OES, CYFAILL GORA OES
|
2/5/2002 | |||||||||||||||||
Gwelfor, waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd | |||||||||||||||||
nyddwr bach tan y marian ben bore?cog yn yr un lle eto
|
17/7/2002 | |||||||||||||||||
Gwelfor, waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd | |||||||||||||||||
cog las o gwmpas pant y defaid bore ma?.Elfed drws nesa yn dweud iddo weld creyr yn yr ardd tua 1100 ddoe (llyffantod modfedd o gwmpas y pwll)?son [ray woods>>iolo williams) bod penbyliaid o dan rai amgylchiadau yn dal eu gwynt am flwyddyn cyn datblygu'n llyffantod [Galwad Cynnar]
|
1/5/2003 | |||||||||||||||||
Gwelfor, waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd | |||||||||||||||||
coeden fala giat mynedfa aber yn anterth ei blodau (gwyn) llawer gwell na'r llynedd, 4/5, ond eraill ddim cystal. Yr un y tu ol i'r Nant heibio ei gorau a chnwd salach. Cnocell werdd, cog a chnocell fraith i'w clywed o gyffiniau'r nant?can telor yr helyg cyntaf y yr ardd eleni heddiw
|
14/5/2003 | |||||||||||||||||
Gwelfor, waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd | |||||||||||||||||
cnwd mawr o flodau ar ambell i gelynen on ddim pob un?cog dros penrhiw neithiwr
|
18/5/2003 | |||||||||||||||||
Gwelfor, waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd | |||||||||||||||||
h.y. y pwysedd wedi bod i fyny ac wedi dod i lawr i'r un fan a ddoe?ddoe arolwg coed fala coed y coleg aber efo criw, 3-4 o goed yn unig, eu blodau ar ddarfod a blodau drain gwynion yn eu hanterth, corydalis efo blodyn uwchben pont y Nant, cog yn canu a hedfan uwchben y coed, stwr fawr o sgrech coed?criafolen wen gwelfor yn dechrau dod i'w blodau
|
25/4/2007 | |||||||||||||||||
gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd | |||||||||||||||||
self heal yn ei flodau ddoe tro cyntaf?cog cyntaf I mi, cae caled?nyddwr bach cyntaf
|
9/6/2007 | |||||||||||||||||
Gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd | |||||||||||||||||
nyddwr bach yn canu dwy noson yn ?l tua'r Rhegal?cog yn canu yn rheolaidd neithiwr o'r ardd
|
21/4/2008 | |||||||||||||||||
gwelfor, waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd | |||||||||||||||||
gwyliau gwersylla yn y New Forest?gwyfs brindled beauty wedi eu dal?derw yn deilio, ffawydd heb ddechrau?telor yr helyg yn canu, onnen yn blodeuo heb ddail?coed falau surion yn dod I'w blodau?cog yn canu wrth ffordd Beaulieu?cyfartaledd glaw Gwelfor AMSER MAX 1730 AMSER MIN 0730
|
23/4/2010 | |||||||||||||||||
Waunfawr | |||||||||||||||||
Huw Holland Jones | |||||||||||||||||
Just heard a cuckoo (5pm). Considering the cold winter and cold spring I'm surprised to hear such an early cuckoo. In recent years i haven't heard a ( my first) cuckoo till early May. Looks like the dry weather will continue next week (after a possible few showers over the weekend)...another high pressure is building up from Monday afternoon. Could be that this will be one of the sunniest Aprils ever recorded
|
20/6/2010 | |||||||||||||||||
Gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd | |||||||||||||||||
Cymylau ben bore 4/8. Cog a nyddwr bach i'w clywed yn y cyffiniau echnos.
|
24/6/2010 | |||||||||||||||||
Solihull | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edith Holden | |||||||||||||||||
Midsummer Day The cuckoo is beginning to change his tune, a little later he will be saying 'cuc-cuckoo' instead of 'cuckoo'
|
26/4/2011 | |||||||||||||||||
Waunfawr | |||||||||||||||||
Huw Holland Jones | |||||||||||||||||
Heard cuckoo this morning at 8.30 26th April. Thought I heard it 2 days ago on 24th April but wasn't sure..this morning it was clear ( last year it was 23rd April). Also heard first grasshopper warbler on 23rd this year
|
4/5/2011 | |||||||||||||||||
Gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd DB | |||||||||||||||||
Cymylau ben bore 1/8. Bore teg o wanwyn eto ond awel reit gref. Cog yn canu ben bore, y gynta ers tro.
|
6/4/2012 | |||||||||||||||||
Spaen | |||||||||||||||||
http://www.bto.org/science/migration/tracking-studies/cuckoo-tracking/martin | |||||||||||||||||
Martin reaches Europe! 6 April 2012
Locations received last night showed that Martin had crossed over from Algeria into Spain. At 0325hrs he was situated in a well-wooded landscape about 18km (11 miles) west of Lorca in Murcia region. Although we can’t tell exactly where he crossed the Mediterranean, he appears to have taken a very similar route to that taken by Clement on his southward passage last July. This makes Martin the first of the Cuckoos to make it into Europe - will he be the first to reach Britain?
|
9/5/2012 | |||||||||||||||||
Gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd DB | |||||||||||||||||
Cymylau ben bore 7/8, cymylau tenau iawn dros yr wybren ben bore. Cog yn hedfan heibio'r ardd.
|
16/5/2012 | |||||||||||||||||
Gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd DB | |||||||||||||||||
Cymylau ben bore 5/8. Oer o hyd. Pob dim yn ara deg iawn. Cog yn hedfan heibio'r ardd eto y bore ma. Arlywydd newydd Ffrainc yn cael ei gapio ddoe cyn hedfan i'r Almaen weld Angel Merkel - ond mi drawodd ei awyren (uwchben Paris?) gan fellten a bu raid iddo ddychwelyd i fynd ar awyren arall! Storm o genllysg pelenni mawr (centimedr ar draws bron) wedi disgyn dros ty tua 1330 ddoe, gyda swn taran yr un pryd.
|
19/5/2012 | |||||||||||||||||
Gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd DB | |||||||||||||||||
Cymylau ben bore 8/8. Mwy o'r un peth, y gwynt yn mynnu aros yn y gogledd ddwyrain a chadw'r gwanwyn draw! Cog yn pashio'r ardd pob bore wythnos yma.
|
16/6/2012 | |||||||||||||||||
Gwelfor, Waunfawr | |||||||||||||||||
gorsaf dywydd DB | |||||||||||||||||
Cymylau ben bore 8/8. Glaw glaw a mwy o law...a gwynt, pnawn ddoe tan bore yma. Cog yn cael ei hyrddio heibio'r ystafell haul ddoe yn y tywydd mawr, wennoliaid yn hela yn y caeau ac efallai yn dilyn trywydd Pero yn carlamu trwy'r glaswellt.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|